

Mae Mellt yn bedwarawd o Aberystwyth yn wreiddiol, sydd bellach wedi’u lleoli yng Nghaerdydd. Enillodd eu halbwm cyntaf ‘Mae’n Hawdd Pan Ti’n Ifanc’, Albwm Cymraeg y Flwyddyn yn 2018, a chyrhaeddodd yr albwm rhestr fel y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yr un flwyddyn.
Fe gafodd ei ail albwm ‘Dim Dwywaith’ ei rhyddhau yn mis Hydref 2023 ar label Clwb Music gyda sawl adolygiad anhygoel gan Clash, NME ac adolygiad 8/10 gan gylchgrawn Uncut. Fe wnaeth yr albwm gyrraedd rhestr fer y Wobr Gerddoriaeth Gymraeg ac Albwm Gymraeg y Flwyddyn hefyd.
Ar ôl chwarae nifer o sioeau byw, mae’r pedwarawd deinameg yn llwyddo i hoelio sylw cynulleidfaoedd gan wneud eu marc yn glir ar dirlun eang cerddoriaeth Cymru. Gyda llais sydd bron yn llafarganu, gitâr sgrechlyd a drymiau beiddgar, mae Mellt yn anarchwyr y dorf, gan achosi twrw lle bynnag maen nhw. Mae Mellt wedi cael eu dylanwadu gan The Clash, The Band a The Replacements gyda’u riffiau gitâr bachog, synau slacyr roc a post pync, mae geiriau Mellt yn goron ar y cyfan.
Mellt are a four piece band originally from Aberystwyth, but now based in Cardiff. Their debut album 'Mae'n Hawdd Pan Ti'n Ifanc' (It's Easy When You're Young) won the coveted Welsh Language Album of the Year in 2018, and was nominated for the Welsh Music Prize the same year.
Their second album 'Dim Dwywaith' was released in October 2023 on Clwb Music and received incredible reviews from Clash, NME and a 8/10 review from Uncut Magazine. It also reached the short list for the Welsh Music Prize and Welsh Language Album of the Year.
With numerous live shows under their belt, this energetic four piece manages to captivate an audience wherever they go, firmly making their mark in Wales’ vast music landscape. With chant-like vocals, shrieking guitar and punching drumbeats, Mellt are crowd anarchists. Citing influences from The Clash, The Band and The Replacements, with their catchy guitar riffs and a perfect blend of slacker rock and post punk sounds — Mellt’s clever and intricate lyrics take them to the next level.

Artist pop breuddwydiol diwydiannol yw em koko, sy’n cyfuno shoegaze, electronica a roc diwydiannol, heb amrantu eu llygaid cysglyd byth.
Ers i em koko roi ei act am y tro cyntaf ym mis Ionawr 2024, mae hi wedi chwarae gyda Panic Shack, Omni a Buzzard Buzzard Buzzard, wedi rhyddhau ei EP cyntaf "In Nowhere", a wnaeth gyrraedd Mixtape BBC Radio 6 a derbyniodd adolygiad rhagorol gan Clash Magazine, gan ddisgrifio ei EP fel “an absolute spellbinder". Ymhlith hyn bu hefyd yn chwarae yng ngŵyl Green Man 2024 gyda’i band byw trawiadol, sy’n cynnwys Ivor Woods ac Ellie Strong yn aelodau.
Daeth yr amryddawn Emily Kocan yn wreiddiol o’r Fenni a chwaraeodd bas a'r synth i'r cerddorion blaenllaw o dde Cymru, Alice Low a Minas (nawr teethin). Mae’r artist yn rhoi’r arbenigedd bas a synth hwnnw yn flaenllaw yn ei EP cyntaf “yn cyfleu negeseuon datgysylltiedig o gryfder ac anogaeth o’r tu hwnt i orchudd terfynol y brif ffrâm electronig.”
em koko is an industrial dream-pop artist, blending shoegaze, electronica and industrial rock, without ever blinking their sleepy eyes.
Since em koko debuted her act in January 2024, she has shared line-ups with Panic Shack, Omni and Buzzard Buzzard Buzzard, released her debut EP "In Nowhere", which made the BBC Radio 6 Mixtape and received an excellent review from Clash Magazine, describing her EP as "An absolute spellbinder". Among this she also played Green Man festival 2024 with her impressive live band, which consists of members Ivor Woods and Ellie Strong.
The multitalented Emily Kocan found her footing in Abergavenny and played bass and synth for leading South Wales musicians Alice Low and Minas (now teethin). Her debut EP has the artist putting that bass and synth expertise right at the fore “communicating dissociated messages of strength and encouragement from beyond the liminal veil of the electronic mainframe.”

Gyda pherfformiad cyntaf yng Ngŵyl Swn ac yn prysur gyrraedd nifer o radar yn 2025, Artist DIY o Gaerfyrddin yng Ngorllewin Cymru yw Emyr Sion, wedi’i ysbrydoli gan gerddoriaeth DIY arfordir y gorllewin y 1970au, a cherddoriaeth fodern canu gwlad.
Gan gyfuno offerynnau syml ac organig gyda geiriau hynod bersonol ac yn aml yn hunan dilornus, mae Emyr Sion yn ysgrifennu’n onest ac agored am ei feddyliau a’i deimladau, gan drosi i leisiau brawychus a di-rwystr sy’n sgwatio’n drwm dros riffiau gitâr ddymunol yn amrywio o freuddwydiol a seicedelig i wlad a gwerin, gydag ambell afluniad slei.
Mae eu sengl gyntaf, 'Braf' sy'n cynnwys Hollie Singer o Adwaith yn enghraifft ddisglair o wlad amgen fodern, a ryddhawyd ar 19 Chwefror 2025.
With a debut performance at Swn festival and quickly making their way on to a number of radars in 2025, Emyr Sion is a DIY artist from Carmarthen in West Wales, inspired by the barn-made West Coast music of the 1970’s, and the elegiac music of modern alternative country.
Combining simple and organic instrumentals with deeply personal and often self-deprecating lyrics, Emyr Sion writes honestly and openly about his thoughts and feelings, translating into timid and listless vocals which squat heavily over sonically pleasing guitar riffs ranging from dreamy and psychedelic to country and folk, with the occasional sneaking distortion.
Their debut single, 'Braf' featuring Adwaith's Hollie Singer is a shimmering example of modern alternative country, releasing on the 19th of February 2025.